Tegell a'r cwpan.
Rydym esioes wedi arbrofi gyda gwneud coffi y ffordd yma oherwydd mae’r cwestiwn yma wedi dod i fynny mwy nag unwiath dros y blynyddoedd “Wyt ti’n gwneud coffi parod/powdr?” Nawr(Gan bod gennym tipin o amser ar ein dwylo) yw’r amser i chwarae gyda bragu coffi heb offeryn neu fag, a darganfod os gallwn cael coffi blasus go iawn (bron) ar unwaith?
Ac ydi’r ffordd yma yn cynhyrchu cwpan lan neu fydd hi fel yfed drwy dannedd wedi ei graeanu?
1. I gael yr amser byraf i echdynnu’r mwyaf allan o’r coffi, fyddwn yn malu’r coffi yn fân fel fyddwch argyfer espresso/pot Twrceg.
2. Y maint o ddŵr yw ddefnyddio yw 200ml/g. I cadw nhw’n gyfartal.
3. Penderfynu ar y pwysau o goffi ar gyfer pob un cwpan. O ganlyniad profion blaenorol yn defnyddio te rhydd, bagiau fyddai'n pwyso 7g oedd gorau, I trio pwys wahannol byddwn yn trio 14g.
4. I ddyfinio amser fwyaf rhesymol i fragu'r coffi bydd 2 funud.
Y canlyniad.
Mae’r dull yma i fragu coffi yn hawdd iawn. Mae na tipin o sychder yn y gwpan, mae’n posib bydd hwn oherwydd gronyunnau mân, ond, dydi hon ddim yn ddigon i fod yn nodedig i ddinistrio'r diod pan rydych yn ei cymharu i coffi parod.
Yn y diwedd ein barn ni bod 7g o goffi yn ddigon i gael y gorau o’ch cwpan, gyda blas sydd wedi ei ddyffino’n well a dyfnder. Ers hynnu, er bod blas 14g yn fwy dwfn, doedd y blas ddim mor ddiffiniedig.