Coffi mewn tin, y tro cyntaf.
Yr ateb i’r cwestiwn “Gallwch chi ddefnyddio tun i fragu eich coffi?” yw gallwch!
Rydym wedi defnyddio dwy ffordd i gyflawni hwn. Y ffordd cyntaf yn defnyddio'r tun fel mae o, heb newidiadau. Mae’r ffordd arall yn cynnwys tun sydd wedi cael newidiadau. Bydd hwn mewn pôst arall.
Y ffordd cyntaf wedi’i ddewis i fragu yw y ffordd ‘Coffi Cowboi’, i ddefnyddio’r techneg yma i fragu eich coffi, roedden ni’n dilyn y cyfarwyddiadau yma:
15g coffi wedi malu’n fân
171ml dŵr
I gychwyn dewch a’r dŵr yn y tun i ferwi. Pan mae’r ddŵr wedi dechrau berwi, trowch y gwres i lawr i ledferwi a rhowch y coffi i mewn, defnyddiwch llwy i sycirhau bod y coffi wedi ei cwbwl cymysgu yn y dŵr a gadewch am 2 funud i fragu.
Defnyddiwch lliain i arllwys y coffi i’ch cwpan neu defnyddiwch lletwad.
Yn y gwpan!
Y tro cyntaf i ni drio’r techneg yma roedd blas da ar y coffi ond, roedd blas metaleg nodiadol ynddo hefyd.
Ar yr ail dro i fragu, roedd gwir flas y coffi yn dod trwyddo heb y blas metaleg. Rydan ni’n meddwl mae’r rheswm am y blas metaleg y tro cyntaf oedd oherwydd rhaid tymhori y tun yn gyntaf cyn ei ddefnyddio.