Coffi mewn tin yr ail dro.
Yr ail ffordd rydan ni am ddefnyddio i fragu coffi yw, y techneg pot Twrceg.
Fel gallwch chi weld yn y lluniau, rydan ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r tun i drio ei wneud fwy fel pot Twrceg traddodiadol. Os ydach yn meddwl am ail greu hwn cymerwch gofal os gwelwch chi’n dda.
I ail greu y techneg yma dilynwch y cyfarwyddiadau yma:
7g coffi wedi’i falu’n fân
50ml dŵr
I gychwyn, rhowch y ddau i fewn i’r tun a cymysgu’n dda i sicirhau fod y coffi i gyd yn y dŵr cyn rhoi ar y stôf. Yn nesaf, Rhowch y tun ar y stôf ar wres canolig a cymysgu unwaith eto gyda llwy. Wedyn cyn iddo cychwyn i berwi gormod, cymherch y tun o ar y stôf.
Cymerwch ofal i arllwys y coffi i’ch cwpan. Bydd hon yn sicirhau bod y rhan fwyaf o ffa coffi yn aros yn waelod y tun.
Yn y gwpan!
Unwaith eto, fel yn y dechneg blaenorol, roedd gan y fragiad cyntaf flas cryf coffi ond hefyd blas metaleg nodiadol ynddo.
Worth fragu am yr ail dro, cawsom y gwir flas o goffi a'r math iawn o gryfder mae'r techneg yma yn ei greu, heb y blas metaleg diflas.
Cofiwch, mae'n rhaid i chwi gychwyn y broses bragu mewn tun gan tymhori y tun yn gyntaf. Bydd hwn yn sicrhau blas gwir coffi heb nodiadau metaleg.